エピソード

  • Y Panel Chwaraeon - Pêl-droed, Dartiau a Sboncen
    2025/06/06

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Ffion Eluned Owen, Gwion Samson a Carl Roberts yn trafod gêm bêl-droed tîm dynion Cymru yn erbyn Liechtenstein; edrych mlaen i ymgyrch menywod Cymru yn yr Ewros yn Swistir; Anthem Genedlaethol Liechtenstein; Cwpan y Byd y dartiau; a llwyddiant y Cymro Joel Makin wrth iddo gyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaethau Agored Sboncen Prydain.

    続きを読む 一部表示
    13 分
  • Y Panel Chwaraeon - Seiclo, Pêl-droed, Criced, Rygbi a Pŵl
    2025/06/02

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Elin Lloyd Griffiths, Gareth Rhys Owen a Cynan Anwyl yn trafod Y Pab Leo yn bendithio'r Giro d'Italia; gemau pêl-droed Merched a Dynion Cymru; PSG yn bencampwyr Ewrop; Oes gormod o griced?; Y tymor rygbi rhanbarthol yn dod i ben; Sut i setlo gemau Y Llewod os ydyn nhw'n gorffen yn gyfartal; A champau eraill nad ydyn nhw'n cael digon o sylw.

    続きを読む 一部表示
    17 分
  • Y Panel Chwaraeon - Pêl-droed
    2025/05/30

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Angharad Mair, Carl Roberts a Carwyn Eckley yn trafod gemau nesaf timau pêl-droed merched a dynion Cymru; Ydi chwaraewyr yn gorfod chwarae mewn gormod o gemau pêl-droed?; Wrth i golwr Lloegr Mary Earps gyhoeddi ei bod hi'n ymddeol, a yw hynny'n newyddion da i Gymru?; A buddugoliaeth o'r diwedd i Glwb Pêl-droed Cwm Albion, Abertawe.

    続きを読む 一部表示
    12 分
  • Y Panel Chwaraeon - Pêl-droed, Rygbi, F1, Ralio a cherfluniau chwaraeon
    2025/05/26

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Lauren Jenkins, Rhiannon Sim a Dewi Williams, a sgwrs hefyd gyda Heledd Roberts fu'n gweithio yn ystod Grand Prix F1 ym Monaco; Diwedd tymor pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr; Cwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop, a Phencampwriaeth Clybiau Rygbi y Byd yn 2028; Gemau olaf Menywod Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd cyn mynd i Ewro 2025; Grand Prix F1 Monaco; ac ym myd Ralio, teyrnged arbennig i'r cyd yrrwr rali, Dai Roberts o Gaerfyrddin.

    続きを読む 一部表示
    17 分
  • Y Panel Chwaraeon - Rygbi, Pêl-droed a Chriced
    2025/05/23

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Gareth Rhys Owen, Catrin Heledd a Mike Davies, sy'n trafod cyfnod ansicr i'n rhanbarthau rygbi, taith tîm rygbi Cymru i Siapan, Brennan Johnson yn sgorio unig gôl y gêm yn rownd derfynol Cynghrair Ewropa, a llwyddiant Cymro ym myd criced.

    続きを読む 一部表示
    16 分
  • Y Panel Chwaraeon - Rygbi, Pêl-droed, Ralio a Dartiau
    2025/05/19

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Gareth Rhys Owen, Carl Roberts, Nia Davies a Daniel Tomas, sy'n trafod dyfodol ansicr i rygbi rhanbarthol; ffarwelio gyda Pharc Goodison, cartref Clwb Pêl-droed Everton; Cyhoeddi carfan Menywod Cymru ar gopa Yr Wyddfa; Elfyn Evans yn dal ar frig Pencampwriaeth Ralio Y Byd; a digwyddiadau cofiadwy mewn chwaraeon er i'r tîm golli.

    続きを読む 一部表示
    20 分
  • Y Panel Chwaraeon - Rygbi, Pêl-droed, Pêl-rwyd a Bocsio
    2025/05/16

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Elain Roberts, Dafydd Jones ac Owain Gwynedd, sy'n trafod penwythnos ola'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig; Rygbi 7 bob ochr; Tîm Pêl-rwyd Dreigiau Caerdydd; Y bocsiwr Lauren Price; Rownd derfynol Cwpan F.A.Lloegr

    続きを読む 一部表示
    14 分
  • Y Panel Chwaraeon - Rygbi, Seiclo, Ralio a Phêl-droed
    2025/05/12

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Cennydd Davies, Rhodri Gomer a Dyfed Cynan, sy'n trafod rygbi a gwerth cynnal digwyddiad "Dydd y Farn", Josh Tarling yn y Giro d'Italia; Trent Alexander Arnold yn ffarwelio gyda Lerpwl; a pherfformiad Elfyn Evans ym Mhencampwriaeth Rali Y Byd.

    続きを読む 一部表示
    16 分