RHYBUDD CYNNWYS: Mae'r fideo hwn yn cynnwys sgwrs am brofiadau personol sy'n ymwneud â iechyd meddwl. Efallai y bydd y cynnwys yn emosiynol i rai gwylwyr.
--
Croeso i ail bennod podlediad newydd Mam, Dad a Magu.'Da ni yma i siarad am blant a bob dim sydd yn dod gyda magu nhw.
A sut well i sôn am y stwff 'ma na dros banad a sgwrs!
Os da chi'n Fam, Tad, Gofalwr, Taid, Nain, Anti, Brawd neu pwy bynnag!
Os oes 'na rywbeth 'da chi angen siarad efo rhywun am, plîs gyrrwch neges draw i dîm Teulu Gwynedd trwy'r e-bost yma: teulugwynedd@gwynedd.llyw.cymru
Diolch am ymuno â ni, gwnewch banad, a dewch am sgwrs.
Gwesteiwr: Mari Elen
Cynhyrchydd: Eirian Daniels Williams
Cynhyrchydd cyfres, cyfarwyddwr a golygydd: Dïon Wyn
--
Pennod 2 | Iechyd Meddwl
Yn y bennod yma mae Mari ac Aled yn rhannu eu profiadau personol i ymwneud â iechyd meddwl ac yn sgwrsio efo Gwawr am yr arwyddion, sut i gael cymorth a tips i sut i wella eich iechyd meddwl chi eich hun.
Gwestai: Aled Edwards - Elusen 'Sut Mae Dad?'
Gwawr Miller - Cefnogi Teuluoedd, Cyngor Gwynedd
Amserlen:
00:00 - Intro
02:11 - Beth yw'r arwyddion?
08:53 - Y camau cyntaf?
15:36 - Profiadau Mari ac Aled
20:52 - Sut y gallwn ni cadw ein meddyliau yn iach?
29:01 - Clybiau a grwpiau
34:32 -Outro
Adnoddau:
https://www.dewis.cymru/
https://www.gwybodaethgofalplant.cymru/home
https://www.instagram.com/sutmaedad_howsdad
https://www.llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo
https://bipbc.gig.cymru/cyngor-iechyd/dechrau-gorau