エピソード

  • Pan mae cymharu yn gwasgu 'pause' ar ein datblygiad - a sut i wasgu 'play' eto | 24
    2025/04/23
    Cymharu - p'un ai bod e'n cymharu yr hunan ag eraill neu'n gymharu ni ein hunan gyda fersiwyn ohonom yn y gorffennol - mae e'n gwasgu 'pause' ar datblygiad. Yn y bennod hon, rydyn ni'n archwilio sut mae cymharu yn cymylu'r ffordd ymlaen i ni ac yn oedi penderfyniadau cynhyrchiol, yn ogystgal a beth all gael ei wneud er mwyn shiffto pethau i'r cyfeiriad cywir gyda hyder a rhwyddineb.

    *Mae cofrestru ar gyfer Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws nawr AR AGOR. Llewnodd llefydd y cwrs diwethaf cyn y dyddiad cau am gofrestru, felly, os oes diddordeb gyda ti, derbynia dy le nawr. Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
    続きを読む 一部表示
    12 分
  • *Cyfres Fonws: Y Ffordd Ymlaen* | 23
    2025/04/21
    Yn y bennod hon, mae Hanna'n esbonio sut mae dysgu cofleidio chwilfrydedd a pheidio ag aros am yr 'amser perffaith' wedi Gwneud Bywyd yn Haws iddi hi. Mae hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am 12 modiwl y cwrs ynghyd â'r modiwlau bonws! Gwrandewch i ddysgu mwy!

    *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
    続きを読む 一部表示
    9 分
  • *Blas ar fodiwl 'Hunan Hyder' + 'H' Fframwaith GBYH * | 22
    2025/04/20
    Beth mae cwrs GBYH yn ein ddysgu i ni am hunan hyder? Ym mhennod 5 y gyfres fonws, cawn gyfle i ddysgu ychydig am y modiwl hwn yn ogystal â dod i adnabod yr 'H' ar y fframwaith sy'n sefyll am 'Hawlio'. Mae hwn yn gam pwysig a chyffrous ar y fframwaith sy'n ein helpu i wreiddio'r newid! Ydych chi'n barod i ddysgu am hawlio eich hunaniaeth newydd?

    *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
    続きを読む 一部表示
    9 分
  • *Blas ar Fodel y 3 System Emosiwn + 'Y' Fframwaith GBYH* | 21
    2025/04/19
    Mae pennod 4 y gyfres fonws yn rhoi cipolwg ar fodel y tri system emosiwn sy'n cael ei gyflwyno ar y cwrs. Mae'r bennod hefyd yn ein gwahodd i ystyried beth mae gwir 'ymrwymo' yn ei olygu a sut mae'r cwrs yn ein helpu i gadw at ein ymrwymiadau mewn ffordd gynaladwy.

    *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
    続きを読む 一部表示
    11 分
  • *Blas ar y modiwl 'Plesio Pobl' + 'B' Fframwaith GBYH* | 20
    2025/04/18
    Ym mhennod 3 o'r gyfres fonws, cawn flas ar y modiwl sy'n cyflwyno strategaethau i fynd i'r afael â 'plesio pobl'. Rydym hefyd yn cael ein cyflwyno i'r hyn sydd y tu ôl i'r 'B' ar y fframwaith. Sut mae'r cam hwn yn gwneud bywyd yn haws? Gwrandewch i ddarganfod mwy!


    *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
    続きを読む 一部表示
    13 分
  • *Cyflwyno Fframwaith GBYH: Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws* | 19
    2025/04/17
    Yn ail bennod y gyfres fonws, mae fframwaith unigryw Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws yn cael ei gyflwyno. Heddiw, y cam cyntaf - y 'G' - sydd o dan sylw. Gwrandewch i ddysgu am sut mae'r cwrs hwn yn cyflwyno ffordd wahanol o gyrraedd ein nodau a chynnal ein llwyddiant.

    *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
    続きを読む 一部表示
    11 分
  • *Cyfres Fonws: Balans Bywyd* | 18
    2025/04/16
    Croeso i'r gyfres fonws o bodlediad Gwneud Bywyd yn Haws! Cyfres o benodau byrion bob dydd am 6 diwrnod wrth edrych ymlaen at Gwrs Gwneud Bywyd yn Haws: Gwanwyn 2025. Heddiw, rydym yn ail-edrych ar y syniad o 'falans bywyd' a'r teimladau sydd y tu ôl iddo. Sut mae diffinio'r teimlad hwn yn wahanol yn gallu ein helpu? Gwrandewch i ddysgu mwy!

    *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
    続きを読む 一部表示
    16 分
  • Ail-fframio ein meddyliau | 17
    2025/03/26
    Ydych chi'n dal eich hun yn siarad yn negyddol â chi eich hunan? Neu a ydy hynny'n digwydd mor gyflym fel nad ydych hyd yn oed yn sylwi, efallai? Fe allai fod yn ddefnyddiol ystyried beth mae ail-fframio ein meddyliau yn ei olygu a sut mae hynny'n gallu Gwneud Bywyd yn Haws. Gwrandewch i ddarganfod mwy!
    続きを読む 一部表示
    14 分