エピソード

  • Pennod 21 - NADOLIG LLAWEN
    2024/12/16

    Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gwsmeriaid annwyl y siop. Mae hi di bod yn flwyddyn anhygoel o drafod, sgwrsio, hel straeon a mwydro a da ni mor ddiolchgar i chi gyd am wrando. Peidiwch a phoeni - nid ffarwel yw hwn, dim ond nodyn o werthfawrogiad wrth gyflwyno pennod olaf y gyfres eleni i chi. Ond mae ganddom ni newyddion cyffrosu i'w rannu gyda chi - felly i mewn i chi i'r siop ar unwaith!

    続きを読む 一部表示
    52 分
  • Pennod 20
    2024/11/28

    Sori, fedrwch chi ddim eistedd fama...Da ni'n dal y gwagle i eiriau 'Defying Gravity'. Yndi, ma Wiza-mania wedi cyrraedd Siarad Siop, ond peidiwch a phoeni os nad ydych chi wedi gwylio'r ffilm eto, does yna ddim spoilers yn y bennod. Mae Mari a Meilir hefyd yn cofio at bawb sydd wedi eu heffeithio gan storm Bert, yn trafod sengl newydd Cabarela, Daf James a BAFTA, Bluey Cymraeg a llawer mwy...! Dewch i mewn i gysgodi a mwynhewch.

    続きを読む 一部表示
    1 時間 17 分
  • Pennod 19
    2024/11/21

    Ydyn ni'n cael dweud y gair eto.... MAE DOLIG AR EI FFORDD ac mae Mari a Meilir wedi dechrau edrych ymlaen yn barod. Yn y bennod hon, mae'r ddau yn trafod hoff anrhegion Nadolig, hoff siocled yr Ŵyl, aliens yr UDA, y mass exodus o Twitter gynt, cadarnhau enw swyddogol Parc Cenedlaethol Eryri a'r Wyddfa, clwb nos Heaven yn Llundain, heb anghofio'r eira! Dewch i mewn o'r oerfel a mwynhewch.

    続きを読む 一部表示
    1 時間 18 分
  • Pennod 17
    2024/11/07

    Wel, wel - cymaint i'w drafod yr wythnos yma. Yn bennaf, yr etholiad ar draws yr Iwerydd. Heb sôn am ein hoff raglenni teledu, aelod newydd i'r teulu Beard, noson tân gwyllt, Terry's chocolate orange a llawer mwy! Croeso i'r siop siarad.

    *Nodyn: Cafodd y bennod hon ei recordio ar noswyl yr etholiad cyn i'r Arlywydd newydd gael ei ddatgan.

    続きを読む 一部表示
    1 時間 13 分
  • Pennod 16
    2024/10/31

    Calan Gaeaf hapus i chi! Ar ôl wythnos i ffwrdd, mae'r siop yn orlawn o sgyrsiau di-ri - o barti gwylio Rupaul's Dragrace Actavia yn Bala, rhoi sudd pickle mewn Diet Coke, supplements madarch, pwy sy'n rhedeg cyfrif Huns Cymru, giggles yn gwaith a llawer mwy. Dewch i mewn...os meiddiwch chi. Mwahahaha!

    T.W. Mae trafodaeth fer am hunan-laddiad yn y bennod hon.

    続きを読む 一部表示
    1 時間 2 分
  • Pennod 15
    2024/10/17

    Wythnos arall, pennod llawn dop arall. Da ni'n trafod aduniad ysgol Meilir, cyfresi podlediadau da, buddugoliaeth Lost Boys and Fairies yn yr Attitude Awards, y drama ar Strictly, Rupaul's Dragrace a llawer mwy. Mwynewch!

    続きを読む 一部表示
    1 時間 3 分
  • Pennod 14
    2024/10/10

    Wel, da ni'n "cooking on gas" rwan gyfeillion a dyma bennod orlawn arall o hanesion, argymhellion, cwynion a chynigion. O ddigwyddiadau'r wythnos, rhaglenni newydd S4C, llyfrau newydd, ymweliad Mari â Llanuwchllyn, dychweliad Big Brother a stormydd trofannol. Dyna ddigon o restru, amser gwrando.

    続きを読む 一部表示
    1 時間 9 分
  • Pennod 13
    2024/10/04

    Gwenwch, mae'n ddydd Gwener! Mae cymaint i'w drafod yr wythnos yma, dyma bennod gynnar i chi. Yn cael sylw'r bennod yma mae sioe Olion gan Gwmni Fran Wen, British Podcast Awards, The Deliverance, Adam Brody yn Nobody Wants This, Beyonce a Jay Z, Dame Maggie Smith, Maggi Noggi ac wrth gwrs, eich cynigion chi, y gwrandawyr. Mwynewch!

    続きを読む 一部表示
    1 時間 10 分